- Mae'r erthygl yma am dalaith Rufeinig Thracia. Am hanes yr ardal gweler Thrace.
Roedd Thracia yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig oedd yn ffurfio rhan o'r ardal a elwid, ac a elwir heddiw, yn Thrace.
Talaith Thracia yn yr Ymerodraeth Rufeinig
Yn y 4g CC concrwyd Thrace gan Philip II, brenin Macedon a bu dan reolaeth y Macedoniaid hyd nes i'r Rhufeiniaid eu gorchfygu ym Mrwydr Pydna yn 168 CC. a chymeryd meddiant o Thrace. Am gyfnod, roedd Thrace yn nifer o deyrnasoedd hanner-annibynnol dan reolaeth Rhufain, ond wedi cyfnod o derfysg ffurfiwyd talaith Rufeinig Thracia yn 46. Roedd y llengoedd yn Moesia yn gyfrifol am ddiogelwch y dalaith. Yn ddiweddarach bu ymladd am Thracia rhwng yr Ymerodraeth Fysantaidd a Bwlgaria, hyd nes iddi ddod yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd.