Ffilm gomedi animeiddiedig Saesneg a ryddhawyd yn 2007 sy'n seiliedig ar y gyfres deledu animeiddiedig The Simpsons yw The Simpsons Movie. Cafodd ei chyfarwyddo gan David Silverman, ei chynhyrchu gan James L. Brooks, Matt Groening, Al Jean, Mike Scully, a Richard Sakai a'i hysgrifennu gan un ar ddeg o ysgrifenwyr mwyaf torieithog y gyfres deledu: Scully, Jean, Brooks, Groening, George Meyer, David Mirkin, Mike Reiss, John Swartzwelder, Jon Vitti, Ian Maxtone-Graham, a Matt Selman. Mae'n serennu'r cast teledu Dan Castellaneta, Julie Kavner, Nancy Cartwright, Yeardley Smith, Hank Azaria, Harry Shearer, Pamela Hayden, a Tress MacNeille gyda Albert Brooks mewn rhan wadd flaenllaw, yn ogystal â Tom Hanks a Green Day mewn rhannau llai.