Simon bar Kochba

Oddi ar Wicipedia
Simon bar Kochba
Ganwyd1 g Edit this on Wikidata
Bu farw135 Edit this on Wikidata
Betar Edit this on Wikidata
PerthnasauEleazar of Modi'im Edit this on Wikidata

Simon bar Kochba (Hebraeg: שמעון בר כוכבא, hefyd Bar Kokhva neu Bar Kokhba) oedd arweinydd y gwrthryfel Iddewig yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig yn 132.

Ei enw gwreiddiol oedd Simon ben Kosba (Hebraeg: שמעון בן כוסבא neu ben Kosiba, בן כוזיבא). Rhoddwyd y cyfenw Bar Kochba Aramaeg am "Fab Seren", yn ddiweddarch, yn cyfeirio at broffwydoliaeth yn Llyfr Numeri.

Roedd yr Iddewon wedi gwrthryfela yn erbyn Rhufain unwaith rhwng 66 a 73, ac wedi cael eu gorchfygu. Yn 132 codasant mewn gwrthryfel eto dan arweiniad bar Kochba. Gorfodwyd y lleng X Fretensis i adael Jerusalem a dychwelyd i Cesarea, a meddiannwyd y ddinas gan yr Iddewon. Dinistriwyd y lleng XXII Deiotariana yn llwyr. Llwyddodd bar Kochba i sefydlu gwladwriaeth annibynnol a barhaodd am dair blynedd, gan ei rheoli dan y teitl "Nasi".

Cafodd y Rhufeiniaid gryn drafferth yn rhoi diwedd ar y gwrthryfel yna, ac yn y diwedd bu raid iddynt ddefnyddio deuddeg lleng. Ar ôl brwydro hir, gorfodwyd bar Kochba i encilio i gaer Betar. Llwyddodd y Rhufeiniaid i gipio'r gaer a lladdwyd bar Kochba a'i wŷr. Yn ôl Cassius Dio, lladdwyd 580,000 o Iddewon yn y gwrthryfel, a llosgwyd 50 o drefi caerog a 985 o bentrefi. Dinistriwyd Jerusalem, ac adeiladwyd dinas Rufeinig, Aelia Capitolina, yn ei lle. Bu'r gwrthryfel y gostus iawn i'r Rhufeiniaid hefyd.

Yn dilyn y gwrthryfel, creodd yr ymerawdwr Hadrian dalaith newydd, trwy uno Judaea, Galilea a Samaria i greu Syria Palaestina.