Un o ranbarthau Ffrainc rhwng 1960 a 2016 oedd Limousin, yng nghanolbarth y wlad. Roedd yn ffinio â rhanbarthau Midi-Pyrénées, Aquitaine, Poitou-Charentes, Centre, ac Auvergne. Yn gorwedd bron yn gyfangwbl yn y Massif central, yn Ionawr 2005, roedd ganddo boblogaeth o 724,243. Roedd ganddo arwynebedd tir o 17,000 km². Enwir y trigolion yn Limousins. Yn 2016, cyfunwyd y diriogaeth yn rhanbarth newydd Nouvelle-Aquitaine.
Rhennir Limousin yn dri département: