Llyn yng Ngogledd Iwerddon yw Lough Neagh (Gwyddeleg: Loch nEathach). Ef yw'r llyn mwyaf ar ynys Iwerddon a llyn mwyaf y Deyrnas Unedig; mae ganddo arwynebedd o 392 cilometr sgwar (151 milltir sgwar). Mae'n 30 km o hyd a 21 km o led yn y man lletaf. Yn ei fan dyfnaf, mae ei ddyfnder yn 25 medr, ond dim ond 9 medr yw ei ddyfnder ar gyfartaledd.
Saif tua 20 milltir i'r gorllewin o ddinas Belffast. Mae ei ddalgylch yn cynnwys tua 43% o arwynebedd Gogledd Iwerddon, ac mae ychydig o diriogaeth Gweriniaeth Iwerddon hefyd o fewn ei ddalgylch. Mae Afon Bann yn llifo trwy'r llyn.
Mae gan bump allan o chwe sir Gogledd Iwerddon ran o lannau'r llyn o fewn eu tiriogaeth: Antrim, Armagh, Down, Derry a Tyrone. Ymhlith y trefi a phentrefi ar ei lan mae Antrim, Crumlin, Randalstown, Toomebridge, Ballyronan, Ballinderry, Moortown, Ardboe, Maghery, Lurgan a Magherafelt.
Lough Neagh o loeren, delwedd NASA