Medina Hammamet
Dinas a leolir yng ngogledd Tiwnisia ar arfordir de-ddwyreiniol Cap Bon tua 60 km i'r de-ddwyrain o'r brifddinas, Tiwnis, yw Hammamet (Arabeg الحمّامات). Gorwedd ar lan Gwlff Hammamet, a enwir ar ei hôl.
Yn perthyn i gouvernorat Nabeul, mae'n ddinas o 63,116 o bobl (2004) sy'n ymestyn dros 3600 hectar o dir. Gyda Nabeul mae'n ffurfio ardal ddinesig o tua 185,000 o bobl.
Hammamet yw un o ganolfannau dwristiaeth bwysicaf Tiwnisia sy'n denu miloedd o ymwelwyr o wledydd Ewrop yn yr haf. Mae datblygiad diweddar
y marina Yasmine Hammamet moethus yn adlewyrchu ei phwysigrwydd i economi Tiwnisia. Yn ogystal â'r traethau hir tywodlyd mae gan y ddinas hen medina a nifer o barciau. Mae'n boblogaidd gan gyfoethogion Tuiwnisia hefyd, a cheir nifer o filas ar gyrion y ddinas.
Mae gan Hammamet orsaf, ar gyrion y ddinas, ar reilffordd Tiwnis-Sfax ac mae'r briffordd GP1 yn rhedeg heibio iddi.
I'r de o Hammamet mae ardal y Sahel yn dechrau a dominyddir y dirwedd gan blanhigfeydd olewydd. Mae'r tir o gwmpas yn ffrwythlon ac mae'r ardal yn adnabyddus am ei gynnyrch amaethyddol. Hanner ffordd rhwng y ddinas a Thiwnis ceir bryniau Dorsal Tiwnisia, a ddominyddir gan gopa Djebel Bou Kornine.
Traethau Hammamet