www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Disbaddiad cemegol

Oddi ar Wicipedia

Disbaddiad gan ddefnyddio cyffuriau er mwyn lleihau libido a gweithgarwch rhywiol neu i reoli a thrin cancr ydy disbaddiad cemegol. Yn wahanol i disbaddiad llawfeddygol lle ceir gwared ar y ceilliau neu'r ofari drwy endoriad i'r corff,[1] nid yw disbaddiad cemegol yn cael gwared ar organau, nac ychwaith yn fodd o sterileiddio.[2]

Gellir dad-wneud effeithiau disbaddiad cemegol trwy beidio a pharhau gyda'r driniaeth, er weithiau gwelir effeithiau parhaol yng nghemeg y corff, megis lleihad yn nwysedd esgyrn gyda defnydd hir dymor o Depo Provera.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]