Talaith yng ngogledd Awstria yw Awstria Uchaf (Almaeneg: Oberösterreich). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,376,797. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Linz, gyda phoblogaeth o 186,298.
Lleoliad Awstri Uchaf yn Awstria
Hyd 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria dan yr enw Österreich ob der Enns. O 1938 hyd 1945, Oberdonau oedd ei henw. Mae'n ffinio a'r Almaen a Gweriniaeth Tsiec, a hefyd ar y taleithiau Awstria Isaf, Steiermark a Salzburg.
Rhennir y dalaith yn dair dinas annibynnol (Statutarstädte) a 15 ardal (Bezirke).
Mae gan Awstria Uchaf ddaerareg ddiddorol dros ben; gellir rhannu'r dalaith yn dair ardal o'r gogledd hyd y de:
- Rhanbarth Afon Y Felin, i'r ochr dde o'r Afon Donaw, gyda'i wenithfaen
- Min yr Alpau, tir gweunydd a choed, yn rhannol wastad ac yn rhannol fryniog
- Rhan o'r Alpau Awstria Uchaf.
Ceir dau lyn mawr: yr Attersee ac y Traunsee.