Cylch yr Ulaid neu Gylch Wlster, a elwid gynt yn Cylch y Gangen Goch, yw'r corff mawr o ryddiaith a barddoniaeth Wyddeleg sy'n rhoi hanes arwyr yr Ulaid, yn yr hyn sy'n awr yn nwyrain Ulster. Mae'n un o'r pedwar cylch mawr yn chwedloniaeth Iwerddon.
Mae'r cylch yn ymdrin â theyrnasiad Conchobar mac Nessa, y dywedir ei fod yn frenin Wlster tua amser Iesu Grist. Roedd yn teyrnasu o Emain Macha (Navan Fort ger Armagh heddiw), ac roedd gelyniaeth rhyngddo ef a Medb, brenhines Connacht a'i gŵr Ailill mac Máta. Prif arwr y cylch yw nai Conchobar, Cúchulainn.
- Amairgin mac Echit, bardd a rhyfelwr
- Athirne, bardd
- Briccriu
- Cathbad, prif Dderwydd Conchobar
- Celtchar, rhyfelwr o Wlster
- Cet mac Mágach, rhyfelwr o Connacht
- Cethern mac Fintain, rhyfelwr o Wlster
- Conall Cernach, arwr o Wlster
- Connla, mab Cúchulainn
- Cormac Cond Longas, tywysog o Wlster, mewn alltudiaeth gyda Fergus
- Cú Roí, brenin Munster
- Culann, gôf
- Deichtine, chwaer Conchobar a mam Cúchulainn
- Donn Cuailnge, tarw
- Dubthach Dóeltenga, alltud o Wlster
- Emer, gwraig Cúchulainn
- Finnbhennach, tarw
- Fráech, arwr o Connacht
- Lóegaire Búadach
- Lugaid mac Con Roí, mab Cú Roí, yn ceisio dial am ladd ei dad
- Macha, duwies
- Naoise, rhyfelwr o Wlster, cariad Deirdre
- Nera, uchelwr o Connacht
- Ness, tywysoges o Wlster, mam Conchobar
- Scáthach, rhyfelwraig sy'n hyfforddi Cúchulainn yn yr Alban