Cramenogion dectroed yn yr is-urdd Brachyura yw crancod, crangod neu crainc. Ceir crancod y môr, crancod dŵr croyw, a chrancod tir. Fel rheol mae ganddynt allsgerbwd trwchus a phâr o grafangau neu fodiau.
Mae ambell anifail yn dwyn yr enw cranc, er nad ydynt yn wir grancod, gan gynnwys marchgranc (teulu Lithodidae), cranc meddal, crancod meudwyol, cranc y cregyn neu granc ymfudol (uwchdeulu Paguroidea), cranc porslen (teulu Porcellanidae), a'r pryfed cranclau (Pthirus pubis).
Cydnabyddir 6,793 o rywogaethau, o fewn 93 o deuluoedd, yn yr is-urdd Brachyura.[2] Maent yn cyfri am ryw hanner o'r holl Decapoda.[3]
- Crancod nofiol (teulu Portunidae)
- Teulu Cancridae
- Teulu Pilumnidae
- Teulu Corystidae
- Teulu Pinnotheridae
- Pysgranc neu granc bach (Pinnotheres pisum)
- Cimwch
- Cranc wisgïwr, cranc sydd wedi bwrw ei allsgerbwd ac sy'n feddal, ac felly'n addas ar gyfer abwyd neu goginiaeth