www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Hyfforddiant

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Hyfforddiant a ddiwygiwyd gan Legobot (sgwrs | cyfraniadau) am 11:19, 14 Mawrth 2013. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Gofodwr yn hyfforddi ar gyfer gweithgarwch allgerbydol (tro yn y gofod) gan ddefnyddio amgylchedd tanddwr i efelychu'r gofod.

Caffael gwybodaeth, sgiliau, a chymwyseddau yw hyfforddiant o ganlyniad i ddysgu sgiliau galwedigaethol neu ymarferol a gwybodaeth sy'n berthnasol at fedrau defnyddiol penodol. Mae'n ffurfio craidd prentisiaethau ac addysg mewn sefydliadau technoleg a cholegau polytechnig. Yn ogystal â'r hyfforddiant sylfaenol sydd angen am grefft, galwedigaeth, neu broffesiwn, gwelir angen gan sylwebyddion y farchnad lafur i weithwyr medrus barhau â hyfforddiant y tu hwnt i gymwysterau cychwynnol: i gynnal, uwchraddio, a diweddaru sgiliau trwy gydol bywyd gweithio. O fewn nifer o alwedigaethau mae gweithwyr proffesiynol yn galw'r fath hon o hyfforddiant yn ddatblygiad proffesiynol.