www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Georgia (talaith UDA)

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:16, 12 Hydref 2017 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)
Talaith Georgia
Baner Georgia Sêl Talaith Georgia
Baner Georgia Sêl Georgia
Llysenw/Llysenwau: Talaith y Eirin Gwlanog
Map o'r Unol Daleithiau gyda Georgia wedi ei amlygu
Map o'r Unol Daleithiau gyda Georgia wedi ei amlygu
Prifddinas Atlanta
Dinas fwyaf Atlanta
Arwynebedd  Safle 24eg
 - Cyfanswm 153,909 km²
 - Lled 370 km
 - Hyd 480 km
 - % dŵr 2.6
 - Lledred 30° 356′ G i 34° 985′ G
 - Hydred 80° 840′ Gor i 85° 605′ Gor
Poblogaeth  Safle 9eg
 - Cyfanswm (2010) 9,815,210
 - Dwysedd 65.4/km² (18eg)
Uchder  
 - Man uchaf Brasstown Bald
1458 m
 - Cymedr uchder 180 m
 - Man isaf 0 m
Derbyn i'r Undeb  2 Ionawr 1788 (18eg)
Llywodraethwr Nathan Deal (G)
Seneddwyr Johnny Isakson (G)
David Perdue (G)
Cylch amser Canolog: UTC-5/-4
Byrfoddau GA Ga. US-GA
Gwefan (yn Saesneg) georgia.gov/

Mae Georgia yn dalaith ar arfordir de-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n ddau ranbarth naturiol; Mynyddoedd yr Appalachian yn y gogledd a gwastadedd arfordirol yn y de. Cafodd ei sefydlu yn 1732 a'i henwi ar ôl y brenin Siôr II o Brydain Fawr, yr hynaf o'r 13 talaith gwreiddiol. Cefnogodd y De yn Rhyfel Cartref America a dioddefodd ddifrod sylweddol mewn canlyniad i ymgyrchoedd y Cadfridog Sherman yn 1864. Atlanta yw'r brifddinas.


Sefydlwyd Georgia yn wreiddiol i amddiffyn De Carolina a thaleithiau eraill rhag ymosodiadau gan y Sbaenwyr yn Florida. Llywodraethwyd y dalaith gan ymddiriodolwyr yn Llundain am ei 20 mlynedd gyntaf.

Erbyn canol 19g, roedd gan Georgia mwy o ystadau tobaco neu gotwm nac unrhyw dalaith arall efo defnydd eang o gaethwasanaeth.

Doedd gan ferched ddim hawl i bleidleisio yn Georgia tan 1922.

Ffurfiwyd Cynhadledd Arweinyddiaeth Cristion y De gan Martin Luther King ym 1957 yn Atlanta.

Mae’r dalaith yn nodweddiadol am gynhyrchu eirin gwlanol, cnau daear a cnau pecan. Dyfeiswyd Coca-Cola yn Atlanta ym 1886.[1]


Dinasoedd Georgia

1 Atlanta 540,922
2 Augusta 250,000
3 Columbus 190,414
4 Savannah 134,669
5 Athens 114,983
6 Macon 92,582

Cyfeiriadau

Dolenni Allanol



Eginyn erthygl sydd uchod am Georgia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.