Georgia (talaith UDA)
Gwedd
Mae Georgia yn dalaith ar arfordir de-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n ddau ranbarth naturiol; Mynyddoedd yr Appalachian yn y gogledd a gwastadedd arfordirol yn y de. Cafodd ei sefydlu yn 1732 a'i henwi ar ôl y brenin Siôr II o Brydain Fawr, yr hynaf o'r 13 talaith gwreiddiol. Cefnogodd y De yn Rhyfel Cartref America a didoddefodd ddifrod sylweddol mewn canlyniad i ymgyrchoedd y Cadfridog Sherman yn 1864. Atlanta yw'r brifddinas.