Brwydr Tours
Gwedd
Brwydr a ymladdwyd gerllaw Tours yn yr hyn sy'n awr yn Ffrainc yn 732 oedd Brwydr Tours', weithiau hefyd Brwydr Poitiers. Ymladdwyd y frwydr rhwng y Ffranciaid dan Siarl Martel a byddin Fwslimaidd dan reolwr Al-Andalus, Abdul Rahman Al Ghafiqi.
Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth fawr i'r Cristionogion, gyda Abdul Rahman ei hun ymhlith y lladdedigion. Mae nifer o haneswyr yn ystyried i'r frwydr yma fod yn un o'r rhai mwyaf tyngedfennol yn hanes Ewrop, ac y gallai Ewrop oll fod wedi dod yn rhan o'r byd Islamaidd onibai am fuddugoliaeth Martel.