www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Simonides: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
:a ddinistriodd rym y Mediaid eurwisg)
:a ddinistriodd rym y Mediaid eurwisg)


Cyfansoddodd [[telyneg|delyneg]] am hanes [[Danaë]], merch [[Argos]], hefyd. Dim on darn sydd wedi goroesi.
Cyfansoddodd [[telyneg|delyneg]] am hanes [[Danaë]], merch chwedlonol [[Acrisius]] o [[Argos (dinas)|Argos]], hefyd. Dim ond darn ohoni sydd wedi goroesi.


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==

Fersiwn yn ôl 17:34, 23 Ionawr 2008

Gweler hefyd Simonides o Amorgos.

Bardd Groeg clasurol oedd Simonides (tua 556 - 468 CC). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei epitaphau er cof am y rhyfelwyr Groegaidd a syrthiodd yn y rhyfeloedd mawr ag Ymerodraeth Persia i amddiffyn annibyniaeth Groeg. Cyfansoddodd nifer o awdlau, emynau a marwnadau hefyd, ond mae rhan helaeth o'i waith ar goll erbyn heddiw.

Ganed y bardd ar ynys Ceos, ger Athen, tua'r flwyddyn 556 CC. Bu fyw am gyfnod yn ninas Athen a threuliodd amser yn Sisilia yn ogystal. Daeth yn enwog iawn a bu noddwyr yn barod i'w wobrwyo'n hael am ei gerddi. Yn ôl y dramodwr comig Aristophanes, roedd yn ŵr ariangar, ond efallai fod cenfigen yn gorwedd tu ôl i'r cyhuddiad hwnnw.

Un o'i gerddi enwocaf oedd ei epitaph i'r Groegiaid a syrthiasai ym Mrwydr Marathon. Fe roddwyd ar feddrod y rhyfelwyr ym Marathon:

Ελλήνων προμαχούντες Αθηναίοι Μαραθώνι
χρυσοφόρων Μήδων εστόρεσαν δύναμιν
(Yr Atheniaid, amddiffynwyr y Groegiaid, ym Marathon
a ddinistriodd rym y Mediaid eurwisg)

Cyfansoddodd delyneg am hanes Danaë, merch chwedlonol Acrisius o Argos, hefyd. Dim ond darn ohoni sydd wedi goroesi.

Llyfryddiaeth

Ceir cyfieithiad gan J. Henry Jones o'r darn am Danaë yn y gyfrol Cerddi Groeg Clasurol (Caerdydd, 1989), gol. gan John Gwyn Griffith.