Simonides: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn newid: en:Simonides of Ceos |
B robot yn newid: no:Simonides fra Keos |
||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
[[lv:Simonīds]] |
[[lv:Simonīds]] |
||
[[nl:Simonides]] |
[[nl:Simonides]] |
||
[[no:Simonides |
[[no:Simonides fra Keos]] |
||
[[pl:Symonides]] |
[[pl:Symonides]] |
||
[[pt:Simónides de Ceos]] |
[[pt:Simónides de Ceos]] |
Fersiwn yn ôl 14:27, 2 Rhagfyr 2008
- Gweler hefyd Simonides o Amorgos.
Bardd Groeg clasurol oedd Simonides (tua 556 - 468 CC). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei epitaphau er cof am y rhyfelwyr Groegaidd a syrthiodd yn y rhyfeloedd mawr ag Ymerodraeth Persia i amddiffyn annibyniaeth Groeg. Cyfansoddodd nifer o awdlau, emynau a marwnadau hefyd, ond mae rhan helaeth o'i waith ar goll erbyn heddiw.
Ganed y bardd ar ynys Ceos, ger Athen, tua'r flwyddyn 556 CC. Bu fyw am gyfnod yn ninas Athen a threuliodd amser yn Sisilia yn ogystal. Daeth yn enwog iawn a bu noddwyr yn barod i'w wobrwyo'n hael am ei gerddi. Yn ôl y dramodwr comig Aristophanes, roedd yn ŵr ariangar, ond efallai fod cenfigen yn gorwedd tu ôl i'r cyhuddiad hwnnw.
Un o'i gerddi enwocaf oedd ei epitaph i'r Groegiaid a syrthiasai ym Mrwydr Marathon. Fe roddwyd ar feddrod y rhyfelwyr ym Marathon:
- Ελλήνων προμαχούντες Αθηναίοι Μαραθώνι
- χρυσοφόρων Μήδων εστόρεσαν δύναμιν
- (Yr Atheniaid, amddiffynwyr y Groegiaid, ym Marathon
- a ddinistriodd rym y Mediaid eurwisg)
Cyfansoddodd delyneg am hanes Danaë, merch chwedlonol Acrisius o Argos, hefyd. Dim ond darn ohoni sydd wedi goroesi.
Llyfryddiaeth
Ceir cyfieithiad gan J. Henry Jones o'r darn am Danaë yn y gyfrol Cerddi Groeg Clasurol (Caerdydd, 1989), gol. gan John Gwyn Griffith.