Bae Morecambe
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | |
Cyfesurynnau | 54.105°N 2.975°W |
Bae yng ngogledd-orllewin Lloegr yw Bae Morecambe. Mae'n gorwedd ym Môr Iwerddon i'r dwyrain o Ynys Manaw ac ychydig i'r de o Ardal y Llynnoedd yn Cumbria. Mae'n cynnwys yr enghraifft fwyaf o fwd a thywod morol yng ngwledydd Prydain, gyda arwynebedd o 310 km². Yn 1974 darganguwyd y maes nwy ail fwyaf yn y DU yn y bae, 25 milltir i'r gorllewin o Blackpool. Yn ei gyfnod mwyaf cynhyrchiol roedd 15% o gyflenwad nwy gwledydd Prydain yn dod o'r bae ond mae'r cynyrchu wedi mynd i lawr a chaewyd y prif faes yn 2011. Enwir y bae ar ôl tref Morecambe, Swydd Gaerhirfryn.
Natur
Mae Afon Leven, Afon Kent, Afon Keer, Afon Lune ac Afon Wyre yn aberu ym Mae Morecambe. Mae llawer o'r tir ar lan y bae wedi ei adennill o'r môr gan ffurfio corsydd a ddefnyddir at bwrpas amaethyddol. Mae'r bae yn ardal bwysig i fywyd gwyllt hefyd, gyda nifer o adar a chynefinoedd amrywiol. Ceir gwelyau cocos mawr yno yn ogystal, sydd wedi cael eu ffermio gan bobl leol ers canrifoedd.
Trefi
Ceir sawl tref a phentref ar lan y bae, yn cynnwys:
- Barrow-in-Furness (Cumbria)
- Morecambe (Swydd Gaerhirfryn)
- Fleetwood (Swydd Gaerhirfryn)
- Ulverston (Cumbria)
- Heysham (Swydd Gaerhirfryn)
- Grange-Over-Sands (Cumbria)
Dolenni allanol
- (Saesneg) Morecambe Bay Partnership, elusen amgylcheddol leol
- (Saesneg) Gwylfa Adar Walney Archifwyd 2009-05-21 yn y Peiriant Wayback., prif wylfa adar y bae