www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]

Ymestyn cyfnod ymgynghori ar gau ysgol gynradd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd Mynydd-y-Garreg
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y cynllun ymgynghori ar gynlluniau i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg i fod i ddod i ben ar 21 Chwefror

Mae Cyngor Sir Gâr wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gynlluniau i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg tan ddiwedd tymor yr haf.

Ym mis Rhagfyr fe benderfynodd y cyngor sir i ymgynghori ar ddyfodol yr ysgol am fod yna ormod o lefydd gwag ac am fod cyflwr yr adeiladau yno yn wael.

Y cynllun posib yw cau'r ysgol a symud y disgyblion - 38 ohonyn nhw - i Ysgol Gwenllian, gyda'r bwriad yn y pen draw o godi ysgol Gymraeg newydd yng Nghydweli.

Roedd ymgyrchwyr yn erbyn y cynlluniau wedi dadlau ei bod hi'n annheg cynnal ymgynghoriad ynghanol pandemig.

Ond dywed y cyngor fod ymestyn y cyfnod ymgynghori tan ddydd Gwener, 16 Gorffennaf, yn "sicrhau bod pawb yn gallu dweud eu dweud".

Dywed y cyngor hefyd eu bod yn dilyn canllawiau anstatudol newydd Llywodraeth Cymru ar arferion gorau o ran ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion yn ystod y pandemig.

Yn sgil penderfyniad y cyngor ddydd Llun, mae'r ymgynghoriadau canlynol hefyd wedi'u hymestyn tan 16 Gorffennaf:

  • Cynnig i newid ystod oedran Ysgol Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11;
  • Cynnig i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Blaenau a Llandybïe;
  • Cynnig i ad-drefnu ac ailfodelu'r gwasanaethau cymorth ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors er mwyn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc;
  • Cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Felin.

Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell ei fod yn cefnogi cynnig y Cynghorydd Glynog Davies gan ychwanegu ei fod yn "gynnig doeth a synhwyrol o dan yr amgylchiadau".

"Mae hyn yn rhoi pob cyfle i rieni a staff a phawb arall roi eu barn," meddai.

"Mae'r ymateb a gawsom hyd yn hyn wedi profi bod ein hymgynghoriad wedi bod yn effeithiol iawn, ond byddai hyn yn caniatáu mwy o amser ac yn dangos ein bod yn barod i fod yn hyblyg hefyd," ychwanegodd.

Mae Manon Gravell - cyn-ddisgybl yn Ysgol Mynydd-y-Garreg a merch i'r diweddar Ray Gravell - ymysg y rhai sy'n erbyn y cynlluniau i gau'r ysgol.

Fe chwaraeodd Ray Gravell, cyn-chwaraewr rygbi Cymru, rhan flaenllaw yn yr ymgyrch i gadw'r ysgol ar agor yn 2006 pan oedd yna fygythiad y byddai'n cau.