www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]

Alla i ddefnyddio cynnwys y BBC?

Diweddarwyd y dudalen: 5 Tachwedd 2018

Rydyn ni'n derbyn nifer fawr o geisiadau gan bobl a sefydliadau sydd eisiau defnyddio cynnwys y BBC, gan gynnwys rhaglenni cyfan, clipiau, lluniau a chynnwys ar bbc.co.uk.

Pryd rydych chi angen caniatâd

I ddefnyddio unrhyw un o'r pethau yma...

  • Rhaglenni cyfan
  • Clipiau
  • Delweddau
  • Cynnwys
  • Ein logo neu frandio arall
  • Unrhywbeth arall sy'n cael ei ddiogelu gan hawlfraint... byddwch chi angen caniatâd.

 

Er weithiau byddwn ni methu rhoi caniatâd i chi

...oherwydd dydyn ni ddim bob amser yn berchen ar yr hawlfraint.

Mae gwaith gan bobl eraill yn aml yn ymddangos yn ein cynnwys ni. Er enghraifft, efallai bod yna ddelweddau, fideos a cherddoriaeth mewn rhaglenni teledu sy'n perthyn i artistiaid, actorion neu gerddorion. Neu efallai bod gennym ni drwydded i ddarlledu sioe, ond mai'r cwmni cynhyrchu sydd berchen arno.

Mae gennym ni beth cynnwys gallwn roi caniatâd i chi ei ddefnyddio, fodd bynnag.

Rydyn ni'n aml yn derbyn ceisiadau am y pynciau isod. Darllenwch ymlaen i weld beth allwn ni roi caniatâd i chi ei ddefnyddio.

Alla i chwarae rhaglen deledu neu radio cyfan?

Mae hynny’n dibynnu ar ble rydych chi ac ar gyfer beth rydych am eu defnyddio.

Os ydych chi yn y DU a’r dibenion yn rhai addysgol

Efallai y gallwch ddefnyddio clipiau at ddibenion addysgol os oes gan eich ysgol, coleg neu brifysgol drwydded Asiantaeth Recordiadau Addysgol (ERA). Ewch i wefan yr ERA i gael rhagor o wybodaeth.

Am wybodaeth ynglŷn â thrwyddedu rhaglenni yn eu llawn hyd at bwrpas addysgol, cysylltwch â BBCStudios.Learning@bbc.com.

Ar gyfer unrhyw beth arall, cysylltwch â ni yma (dolen Saesneg) i ddweud beth rydych chi am ei wneud, yn cynnwys:

  • Pwy ydych chi
  • Manylion eich sefydliad (os yw’n berthnasol), gan gynnwys sut rydych yn cael eich ariannu.

Alla i ddefnyddio delweddau a sgrinluniau?

Bydd angen ichi ofyn caniatâd. Dyma sut i wneud...

I ofyn am brynu cipluniau, anfonwch e-bost at dîm Gwerthiant BBC Motion Gallery.

I holi am ddefnyddio lluniau oddi ar wefan Newyddion y BBC anfonwch e-bost at dîm Rhoi Caniatâd y Wefan Newyddion.

I holi am ddefnyddio unrhyw luniau rydyn ni’n berchen arnyn nhw, anfonwch e-bost at Lyfrgell Lluniau’r BBC.

Cofiwch...

Nid ni biau'r rhan fwyaf o luniau a ffotograffau ar wefan Newyddion y BBC. Ond, yn aml, dangosir pwy bynnag sydd biau'r rhain yng nghornel y sgrin. Dyna pam nad ydyn ni’n gadael i chi ddefnyddio lluniau a ffotograffau oddi ar BBC News at ddibenion masnachol.

Alla i gael trawsgrifiad o raglen deledu?

Dydyn ni ddim yn gwneud trawsgrifiadau o’n rhaglenni ac felly, allwn ni ddim eu darparu. Ymddiheuriadau am hynny.

Ond, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am raglenni ar wefan rhaglenni’r BBC.

Alla i ddefnyddio clipiau o raglenni?

Os ydych chi’n byw yn y DU, efallai y gallwch ddefnyddio clipiau at ddibenion addysgol os oes gan eich ysgol, eich coleg neu eich prifysgol drwydded Asiantaeth Recordiadau Addysgol (ERA). Ewch i wefan yr ERA i gael rhagor o wybodaeth.

Hefyd, efallai y gallwch ddefnyddio clipiau o dan yr eithriadau addysgol i hawlfraint. Ewch i dudalen "Intellectual Property - Exceptions to copyright” GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth.

Am wybodaeth ynglŷn â thrwyddedu rhaglenni yn eu llawn hyd at bwrpas addysgol, cysylltwch â BBCStudios.Learning@bbc.com.

Gallwch ofyn am wybodaeth am brynu clipiau at ddibenion masnachol drwy anfon e-bost at dîm Gwerthiant BBC Motion Gallery yn BBC.MotionGallerySales@gettyimages.com.

Dal methu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn? Cysylltwch â ni yma i ofyn am ganiatâd (dolen Saesneg). Cofiwch ddweud:

  • Pwy ydych chi
  • Manylion eich sefydliad (os yw’n berthnasol), gan gynnwys sut rydych yn cael eich ariannu.

Alla i brynu copi o raglen rwyf wedi ymddangos ynddi?

Efallai bod modd i chi brynu copi. Cewch wybod sut ar ein tudalen Mynediad i Gyfranogwyr.

Alla i ddefnyddio logo a brand y BBC?

Mae’n dibynnu. Mae’n werth mynd i wefan Brandio’r BBC i gael gwybod yn iawn.

Alla i ailddefnyddio cynnwys oddi ar wefan BBC?

Fel arfer, bydd angen i chi ofyn caniatâd.

I holi am ddefnyddio cynnwys oddi ar wefan BBC News anfonwch e-bost at dîm Rhoi Caniatâd y Wefan Newyddion.

I ofyn am ddefnyddio cynnwys oddi ar safleoedd eraill y BBC, cysylltwch yma (dolen Saesneg).

Cofiwch gynnwys gwybodaeth am yr hyn rydych chi eisiau’i wneud â'r cynnwys a ble hoffech ei ddefnyddio.

Cofiwch...

Mae’n bosib bydd angen talu ffi.

Alla i ddefnyddio metadata’r BBC?

Mae'n dibynnu ar gyfer beth mae ei angen...

Ar gyfer pobl

Nid oes gennych chi hawl i dynnu metadata o’n cynnwys.

Ar gyfer busnes

Bydd angen trwydded arnoch chi i ddefnyddio ein metadata. Gwneud cais am drwydded metadata yma.

Ac allwch chi ddim defnyddio'r gwasanaeth metadata rhad ac am ddim. Ymddiheuriadau am hynny.

Ydi hi’n iawn darparu dolen i wefannau’r BBC?

Ydi, mae'n iawn i chi gysylltu ag URL ein gwefan ar yr amod nad ydych chi’n defnyddio logo'r BBC. Os ydych chi'n dymuno defnyddio logo’r BBC mae rhagor o wybodaeth yma.

Sylwch hefyd fod allbwn ein gwefan yn newid dros amser, felly gallai'r hyn y byddwch chi’n cysylltu ag ef fod wedi newid neu efallai na fydd ar gael ar ôl cyfnod penodol o amser.

Alla i ddefnyddio cynnwys y BBC ar gyfer fy musnes?

Bydd angen i chi gael ein caniatâd ni i ddechrau ar gyfer unrhyw ddefnydd yn gysylltiedig â busnes, ac efallai y bydd raid i chi dalu ffi. Mae mwy o fanylion yma.

Newid iaith: EnglishGàidhlig