Protist
Oddi ar Wicipedia
Protistiaid | |
---|---|
Paramecium | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Parth: | Eukarya |
Teyrnas: | Protista Haeckel, 1866 |
Ffyla | |
llawer, mae dosbarthiad y protistiaid yn amrywio |
Grŵp amrywiol o bethau byw yw'r protistiaid. Maent yn cynnwys yr ewcaryotau i gyd nad ydynt yn aelodau'r planhigion, anifeiliaid neu ffyngau. Dydy'r grwpiau o brotistiaid ddim yn perthyn yn agos i'w gilydd ac fe'u rhennir yn aml yn nifer o deyrnasoedd gwahanol. Mae'r mwyafrif o brotistiaid yn ungellog ond mae rhai algâu'n tyfu hyd at 60 m.
Grwpiau pwysig[golygu | golygu cod y dudalen]
- Amoebozoa - e.e. Amoeba
- Mycetozoa (Myxomycota) - ffyngau llysnafedd
- Apicomplexa - e.e. Plasmodium
- Bacillariophyta - diatomau
- Chlorophyta - algâu gwyrdd
- Choanozoa
- Chrysophyta - algâu euraid
- Ciliophora - e.e. Paramecium
- Dinoflagellata
- Euglenozoa - ewglenoidau
- Foraminifera
- Oomycota
- Phaeophyta - algâu brown
- Rhodophyta - algâu coch