Cymraeg
Mae NICE yn ymwybodol nad yw'r dudalen hon yn gyfredol mwyach. Rydym yn mynd i'r afael â hyn, a chaiff pob fersiwn Gymraeg o Ddeall canllawiau NICE eu hychwanegu yn y dyfodol agos.
Croeso i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol
Mae NICE yn sefydliad annibynnol sy'n gyfrifol am ddarparu canllawiau cenedlaethol ar hybu iechyd da ac atal a thrin afiechyd.
Pwy ydym ni
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn sefydliad annibynnol sy'n gyfrifol am ddarparu canllawiau cenedlaethol ar hybu iechyd da ac atal a thrin afiechyd.
Darllenwch fwy am pwy ydym ni. (tudalen we Saesneg yw hon)
Ein gwaith
Mae NICE yn paratoi canllawiau mewn tri maes iechyd:
- iechyd y cyhoedd - canllawiau ar hybu iechyd da ac atal afiechyd i'r rhai sy'n gweithio yn y GIG, awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus a gwirfoddol
- technolegau iechyd - canllawiau ar ddefnyddio moddion newydd a rhai sy'n bodoli eisoes, triniaethau a gweithdrefnau o fewn y GIG
- ymarfer clinigol - canllawiau ar y ffyrdd priodol o drin a gofalu am bobl â chlefydau a chyflyrau penodol o fewn y GIG.
Darllenwch fwy am ein gwaith. (tudalen we Saesneg yw hon)
Sut rydym yn gweithio
Bydd canllawiau NICE yn cael eu datblygu gan ddefnyddio arbenigedd y GIG a'r gymuned gofal iechyd ehangach gan gynnwys staff y GIG, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion a gofalwyr, diwydiant a'r byd academaidd.
Darllenwch fwy am sut rydym yn gweithio. (tudalen we Saesneg yw hon)
Arweiniad i NICE
Mae gennym lyfryn canllaw syml am NICE (yn Saesneg). Mae'n egluro sut byddwn yn penderfynu ar ein canllawiau a sut bydd gwahanol destunau'n cael eu cyfeirio at NICE. Gallwch weld y canllaw ar lein ar ffurf pdf, neu gallwch archebu copi papur drwy ffonio 0870 1555 455, gan roi'r cyfeirnod N0869.
- Arweiniad i NICE (yn Saesneg)
- Ynghylch canllawiau NICE: beth mae´n ei olygu i mi? (yn Saesneg)
Cynllun laith Gymraeg
Mae'r Sefydliad yn ymroi i ddefnyddio'r Gymraeg a bodloni gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Dogfennau sydd ar gael yn Gymraeg ar y safle
Mae'r wefan hon yn darparu fersiynau Cymraeg o ddogfennau canllaw NICE sydd er defnydd y cyhoedd.
Os bydd dogfennau o'r fath - sy'n rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd neu'n cynorthwyo i ddeall canllawiau NICE - ar gael yn Gymraeg, byddant yn cael eu rhestru mewn un o ddwy ffordd.
- Gyda fersiynau cynnar, wrth i chi ddewis y fersiwn Saesneg, bydd yn nodi bod y ddogfen ar gael yn Gymraeg hefyd. Mae'r fersiynau Cymraeg yn ymddangos wrth ochr y fersiynau Saesneg. Cliciwch ar y teitl Cymraeg i agor y ddogfen yn Gymraeg. Enghraifft
- Gyda fersiynau diweddarach (o fis Medi 2006), byddant yn cael eu rhestru fel dogfen ar wahân gyda'r teitl yn Gymraeg. Enghraifft
Hefyd, bydd pob dogfen sydd yn Gymraeg yn cael ei rhestru ar y dudalen hon yn nhrefn y dyddiad cyhoeddi.
This page was last updated: 29 May 2013