www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]

Cymraeg

Mae NICE yn ymwybodol nad yw'r dudalen hon yn gyfredol mwyach. Rydym yn mynd i'r afael â hyn, a chaiff pob fersiwn Gymraeg o Ddeall canllawiau NICE eu hychwanegu yn y dyfodol agos.

Croeso i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol

Mae NICE yn sefydliad annibynnol sy'n gyfrifol am ddarparu canllawiau cenedlaethol ar hybu iechyd da ac atal a thrin afiechyd.

Pwy ydym ni

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn sefydliad annibynnol sy'n gyfrifol am ddarparu canllawiau cenedlaethol ar hybu iechyd da ac atal a thrin afiechyd.

Darllenwch fwy am pwy ydym ni. (tudalen we Saesneg yw hon)

Ein gwaith

Mae NICE yn paratoi canllawiau mewn tri maes iechyd:

  • iechyd y cyhoedd - canllawiau ar hybu iechyd da ac atal afiechyd i'r rhai sy'n gweithio yn y GIG, awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus a gwirfoddol
  • technolegau iechyd - canllawiau ar ddefnyddio moddion newydd a rhai sy'n bodoli eisoes, triniaethau a gweithdrefnau o fewn y GIG
  • ymarfer clinigol - canllawiau ar y ffyrdd priodol o drin a gofalu am bobl â chlefydau a chyflyrau penodol o fewn y GIG.

Darllenwch fwy am ein gwaith. (tudalen we Saesneg yw hon)

Sut rydym yn gweithio

Bydd canllawiau NICE yn cael eu datblygu gan ddefnyddio arbenigedd y GIG a'r gymuned gofal iechyd ehangach gan gynnwys staff y GIG, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion a gofalwyr, diwydiant a'r byd academaidd.

Darllenwch fwy am sut rydym yn gweithio. (tudalen we Saesneg yw hon)

Arweiniad i NICE

Mae gennym lyfryn canllaw syml am NICE (yn Saesneg). Mae'n egluro sut byddwn yn penderfynu ar ein canllawiau a sut bydd gwahanol destunau'n cael eu cyfeirio at NICE. Gallwch weld y canllaw ar lein ar ffurf pdf, neu gallwch archebu copi papur drwy ffonio 0870 1555 455, gan roi'r cyfeirnod N0869.

Cynllun laith Gymraeg

Mae'r Sefydliad yn ymroi i ddefnyddio'r Gymraeg a bodloni gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Dogfennau sydd ar gael yn Gymraeg ar y safle

Mae'r wefan hon yn darparu fersiynau Cymraeg o ddogfennau canllaw NICE sydd er defnydd y cyhoedd.

Os bydd dogfennau o'r fath - sy'n rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd neu'n cynorthwyo i ddeall canllawiau NICE - ar gael yn Gymraeg, byddant yn cael eu rhestru mewn un o ddwy ffordd.

  • Gyda fersiynau cynnar, wrth i chi ddewis y fersiwn Saesneg, bydd yn nodi bod y ddogfen ar gael yn Gymraeg hefyd. Mae'r fersiynau Cymraeg yn ymddangos wrth ochr y fersiynau Saesneg. Cliciwch ar y teitl Cymraeg i agor y ddogfen yn Gymraeg. Enghraifft
  • Gyda fersiynau diweddarach (o fis Medi 2006), byddant yn cael eu rhestru fel dogfen ar wahân gyda'r teitl yn Gymraeg. Enghraifft

Hefyd, bydd pob dogfen sydd yn Gymraeg yn cael ei rhestru ar y dudalen hon yn nhrefn y dyddiad cyhoeddi.

Results 1-20 of 554

Date Reference Title
Mehefin 2007 CG9 CG9 Anhwylderau bwyta: anorecsia nerfosa, bwlimia nerfosa ac anhwylderau bwyta cysylltiedig: deal canllawiau NICE
Tachwedd 2006 CG26 CG26 Anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD): deall canllawiau NICE
Hydref 2006 IPG171 IPG171 Ceulad plasma drwy heliwm laparosgopig i drin endometriosis - Deall arweiniad NICE
Hydref 2006 IPG173 IPG173 Cywasgu disg trwy'r croen gan ddefnyddio dull cobladu i drin poen yn rhan isaf y cefn - deall arweiniad NICE
Hydref 2006 IPG336 IPG172 Cau nam parwydol fentriglaidd peripilenaidd yn endofasgwlaidd - deall arweiniad NICE
Hydref 2006 IPG174 IPG174 YBracitherapi cyfradd dogn uchel ar y cyd â radiotherapi paladrallanol i drin canser y brostadsydd heb ymledu - deall arweiniad NICE
Hydref 2006 IPG188 IPG188 Trin cryndod a dystonia (ond nid y math a welir gyda chlefyd Parkinson) gydag ysgogiad dwfn yr ymennydd
Hydref 2006 IPG170 IPG170 Trawsblannu ysgyfaint gan roddwyr byw ar gyfer cam olaf clefyd yr ysgyfaint - deall arweiniad NICE
Hydref 2006 IPG175 IPG175 Falfoplasti trwy'r croen gan ddefnyddio balwn i drin stenosis aortig mewn ffetysau - deall arweiniad NICE
Hydref 2006 IPG176 IPG176 Falfoplasti trwy'r croen gan ddefnyddio balwn i drin artesia pwlmonaidd gyda septwm fentriglaidd cyflawn mewn ffetysau - deall arweiniad NICE
Gorffennaf 2001 TA25 TA25 Arweiniad ar ddefnyddio gemcitabine i drin canser pancreatig: deall canllawiau NICE
Hydref 2006 TA99 TA99 Cyffuriau i atal trawsblaniadau aren mewn plant a phobl ifanc rhag cael eu gwrthod: deall canllawiau NICE
Hydref 2006 TA107 TA107 Trastuzumab ar gyfer triniaeth gynorthwyol o ganser y fron HER2-positif cynnar: deall canllawiau NICE
Medi 2006 TA105 TA105 Llawdriniaeth laparosgopig ar gyfer canser y colon a'r rhefr (adolygiad): deall canllawiau NICE
Hydref 2010 TA106 TA106 Peginterfferon alffa a ribafirin ar gyfer trin hepatitis C cronig ysgafn: deall canllawiau NICE
Hydref 2009 CG54 CG54 Haint yn y llwybr wrinol (UTI) mewn plant: deall canllawiau NICE (fformat MS Word)
Hydref 2008 IPG225 IPG225 Trin golwg byr gyda mewnblaniadau cornbilennol: deall canllawiau (fformat MS Word)
Gorffennaf 2008 IPG235 IPG235 Trin canser arwynebol y bledren â gwres microdon a chemotherapi: deall canllawiau NICE (fformatMS Word)
Hydref 2009 TA139 TA139 Pwysedd cadarnhaol parhaus ar y llwybr anadlu ar gyfer apnoea cwsg rhwystrol/syndrom hypopnoea: deall canllawiau NICE (fformat MS Word)
Gorffennaf 2008 IPG236 IPG236 Trin cyflyrau croen llidus â phelydrau-x ynni isel (pelydrau Grenz): deall canllawiau NICE (fformat MS Word)

This page was last updated: 29 May 2013

Accessibility | Cymraeg | Freedom of information | Vision Impaired | Contact Us | Glossary | Data protection | Copyright | Disclaimer | Terms and conditions

Copyright 2013 National Institute for Health and Care Excellence. All rights reserved.

Selected, reliable information for health and social care in one place

Accessibility | Cymraeg | Freedom of information | Vision Impaired | Contact Us | Glossary | Data protection | Copyright | Disclaimer | Terms and conditions

Copyright 2013 National Institute for Health and Care Excellence. All rights reserved.

Accessibility | Cymraeg | Freedom of information | Vision Impaired | Contact Us | Glossary | Data protection | Copyright | Disclaimer | Terms and conditions

Copyright 2013 National Institute for Health and Care Excellence. All rights reserved.

DCSIMG