www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]

Gwasanaeth  Addysg
AthrawonDros 16 OedDisgyblion

Croeso i wefan Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar y safle ceir gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer athrawon ac addysgwyr, disgyblion a myfyrwyr, a phobl o bob oedran sydd eisiau dysgu mwy am gasgliadau'r Llyfrgell. Mae pob math o ddeunydd defnyddiol a diddorol ar gael yn y Llyfrgell, yn ffotograffau, lluniau, llyfrau, mapiau, ffilmiau, archifau a llawysgrifau.

Mae holl weithdai ac adnoddau'r Gwasanaeth Addysg ar gael yn rhad ac am ddim. Dilynwch y dolenni i ddysgu mwy am ein gwaith a beth allwn ni gynnig i ddisgyblion, myfyrwyr, addysgwyr, a dysgwyr gydol oes.

Cofiwch gysylltu gydag ymholiadau neu gwestiynau. Mae Blog a Chalendr y Gwasanaeth Addysg yn cynnwys mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau diweddar a rhai sydd ar y gweill, ac yn rhoi cyfle i chi ddweud eich barn am y rhain.