www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]

06/02/2010

Siomedig - Disappointing


Dyna ydi'r unig air i ddisgrifio'r gem a pherformiad Cymru prynhawn 'ma.
Digon o waith i Warren Gatland a'r hogia i'w wneud erbyn dydd Sadwrn nesaf pan fydd yr Albanwyr yn dod i Caerdydd.


That's the only word to descibe this afternoon's match and Wales' performance.
Plenty of work and food for thought for Warren Gatland and the boys to get stuck into ahead of next Saturday's match with Scotland in Cardiff.

Blaenau a Pharc Cenedlaethol Eryri - Blaenau and the Snowdonia National Park



Mae'r erthygl yma yn y Daily Post yn son am gyfarfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd i'w gynnal dydd Mercher nesaf ac un o'r eitemau dan ystyriaeth fydd cais Cyngor Tref Ffestiniog am i'r Blaenau gael ei gynnwys oddi fewn i ffiniau'r Parc.
Daeth y cais yn sgil fy nghynnig i sawl mis yn ol i'r Cyngor Tref ac fe dderbyniodd y cynnig gefnogaeth mwyafrif o'r aelodau.
Mae yna sawl rheswm economiadd, cymdeithasol, dywillianol ac amgylcheddol pam fy mod yn credu y dylai Blaenau bellach fod oddi fewn i'r Parc ond dwi hefyd yn deallt ac yn parchu barn arall gan un neu ddau sydd wedi siarad efo fi sydd yn teimlo'n gryf iawn yn erbyn cynnwys y dref yn y Parc.
Ar ddiwedd y diwrnod, os bydd Awdurdod y Parc, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Cynulliad yn datgan eu bod nhw yn barod i gynnwys y dref o fewn ffiniau'r Parc Cenedlaethol, dwi'n meddwl mai'r trigolion lleol ddylai gael y penderfyniad terfynol, a chyn bod unrhywbeth yn digwydd yn bendant wedi'r holl arolygon ac ystyriaethau gael ei cysidro, dylid cynnal refferendwm yn lleol. Pan fydd hynny yn digwydd, byddaf yn ymgyrchu o blaid cynnwys ein tref yn y Parc ac bydd croeso i unrhyw un i ymgyrchu yn erbyn, dyna ydi democratiaeth ac byddaf yn derbyn canlyniad pleidlais o'r fath be bynnag fydd hynny.


This article in today's Daily Post highlights the fact that the Snowdonia National Park Authority will be discussing Ffestiniog Town Council's request that Blaenau should be brought into the boundary of the National Park.
This follows my propsal which was supported by the majority of members on the Town Council a few months ago.
I believe that there are a number of economic, social, cultural and environmental reasons why Blaenau should now become a part of the Park. However I am also aware from speaking to a few people who have a different opinion and are against this proposal.
That is why after the National Park Authority, Countryside Council for Wales and the National Assembly have conducted all the relevant studies and appraisals into the matter I firmly beleive that it is the local residents that should have a final say on the matter.
If the response to include the town will be positive, I will then ask the Town Council to hold a referendum so that local residents can vote for or against joining the National Park. Naturally I will be campigning for joining the Park, but at the same time, I will respect the opposite opinion and trust that when the time is right that we will have a full, frank and open debate locally to discuss the merits for and against such a move. That is the democratic thing to do and I will accept the result, whatever and whenever such a referendum will be held.

05/02/2010

Coch - Red



Dyna ydi'r lliw ar gyfer yfory gyfeillion....
Wedi'r cymorthfa yn y bore, adra i wylioLerpwl yn erbyn Everton amser cinio a Lloegr yn erbyn Cymru amser te (Mi wnai fentro allan am dro bach rhwng y ddwy gem!).
Fy ngobaith mawr ydi mai y tim yn y crysau coch fydd yn ennill y ddwy gem.


That's the colour for tomorrow my friends....
After the surgery in morning its home to watch Liverpool versus Everton at lunchtime and England versus Wales at teatime (I will venture out for a nice walk between both matches!).
My hope is that the team in red will win both matches.

04/02/2010

Croeso cynnes i gyhoeddiad ar y Gymraeg..OND!!?


Dyma fo,fy 800fed edefyn 'chydig llai na dwy flynedd ers cychwyn y blog 'ma.
Y Gymraeg sydd yn mynd a fy sylw tro yma.
Dwi'n hynod o falch y bydd pwerau deddfu dros yr iaith yn cael ei drosglwyddo i'r Cynulliad o fewn yr wythnos nesaf OND..Pam ar y ddaear sydd rhaid i hynny olygu y bydd swydd Comisynydd Iaith yn cael ei greu!?
Dyma i chi wast o amser ac adnoddau fydd yn dyblygu a thanseilio'r gwaith clodwiw iawn sydd yn cael ei wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae gan y Bwrdd arbenigedd a phrofiad eang yn y maes yma ac yn y fan hynny dylai cyfrifoldeb am warchod,datblygu a sicrhau fod deddfau yn ymwneud a'r iaith yn cael eu ufyddhau.
Tydw i ddim yn meddwl fod cael comisiynydd arall yn mynd i gyfranu affliw o ddim. Fedrai ddeallt a cefnogi'r gwaith mae'r Comisiynydd Plant yn ei wneud yn enwedig yn sgil achosion cam drin ac yn y blaen. Mae'r Comisiynydd Henoed hyd yma wedi bod yn wastraff llwyr o amser ac adnoddau ac o'm mhrofiad personnol i yma yn lleol doedd hi a'i thim dim cymorth o unrhyw fath i drigolion Bryn Llywelyn yn ystod yr ymgyrch i warchod y cartref hwnnw.
Na tydi Comisiynydd ddim pob tro yn anghenrhaid ac yn sicir yn achos y Gymraeg does dim angen un o gwbwl yn enwedig os byddai'r Cynulliad yn rhoi danedd i Fwrdd yr Iaith.

Cwyn arall! - Another complaint!



Mae'n ymddangos mai nid y fi ydi'r unig aelod o Gyngor Gwynedd mae'r "Arweinydd", Dyfed Edwards wedi cwyno wrth yr Ombwdsmon amdano.
Tro yma, mae Dyfed wedi rhoi cwyn yn erbyn y Cyng. Aeron Jones am iddo ddwued fod Dyfed wedi hedfan i Gaerdydd o'r Fali am gyfarfod gyda'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones sydd digwydd byw ym Mhenygroes, ble mae Dyfed yn byw hefyd.
Dwi wedi gweld copi o'r gwyn gan yr "Arewinydd" yn ogystal ag ymateb Aeron a'r dystiolaeth mae o wedi ei roi i'r Ombwdsmon.
Unwaith eto, mae gan yr "Arweinydd" sawl cwestiwn i'w ateb ac rhai ffactorau y dylai o egluro i drethdalwyr Gwynedd, er o'm mhrofiad personnol i, nid yw Dyfed Edwards yn barod i ateb cwestiynau anodd.
Ac un ymgais i wyro oddi wrth gwneud hynny ydi cwyno am y sawl sydd yn gofyn y cwestiynau i'r Ombwdsmon.
Ar diwedd y diwrnod, fe ddaw y gwir allan a tybiaf yr adeg hynny y bydd angen "parachute" ar y brawd o Benygroes.
Chocs Away!


It appears that I am not the only member of Gwynedd Council that the "Leader" , Dyfed Edwards has complained about to the Ombudsman.
This time, Dyfed has complained about Cllr. Aeron Jones after he alleged on his blog that Dyfed had flown from Valley to Cardiff to meet with the Assembly Culture Minister, Alun Ffred Jones, who just so happens to live in the same village as Dyfed, Penygroes near Caernarfon.
I have seen a copy of Dyfed's complaint as well as the evidence that Cllr.Jones has provided the Ombudsman in his defence against the "Leaders" vexatious complaint.
Once again, the "Leader" of Gwynedd Council has a number of questions that he needs to answer as well as explaining a few factors to the taxpayers of Gwynedd - although from my expereince, Dyfed Edwards does not answer any tough questions when they are put to him.
One way of avoiding such questions is to try deflect attention away from himself and his own actions by complaining about those who question him to the Ombudsman.
At the end of the day, the truth will come to light and I am sure that when it does that the brother from Penygroes will be reaching for his parachute.
Chocs Away!

Cau'r Post yn gwanhau cymunedau - Post office closures weaken communities


Pan fu'r Swyddfa Bost yn "ymgynghori" ar ddyfodol y gwasanaeth a changhenau efo cymunedau ar draws Wynedd tua dwy flynedd yn ol, mi ddywedais pryd hynny mai sham oedd yr holl broses ac y byddai cau y swyddfa bost nid yn unig yn ergyd economaidd ond hefyd yn ergyd cymdeithasol i ardaloedd gwledig a phobol eithredig fel yr henoed a'r tlawd sydd yn byw yn yr ardaloedd hynny.
Mae adroddiad rhyddhawyd heddiw yn cadarnhau hynny a dwi'n credu y dylai Llywodraethau San Steffan a'r Cynulliad edrych yn agos iawn ar y penderfyniad yma ac lle mae'n bosib dylent orfodi'r Swyddfa Bost i ail agor y canghenau gwledig a hynny cyn gynted ac sy'n bosib.


When the Post Office "consulted" with communities across Gwynedd about the future of the service and specif branches two years ago, I said at the time that it was nothing but a sham and that the closure of the post office in a number of rural communities would not only be an economic blow but also a social one to people in those communities who are marginalized, i.e. the elderly and those living in poverty.
A report which was released today confirms this and I believe that the Governments in both Westminster and Cardiff Bay look very closely at this decision and wherever possible, they should enforce the Post Office to re-open rural branches as soon as possible.

02/02/2010

Tynnwch y "trigger" a stopiwch chwarae gemau! - Pull the trigger and stop playing games!


Mae'n ymddangos y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi heddiw y bydd pleidlais ymhen wythnos yn rhoi cyfle i Aelodau'r Cynulliad ddechrau'r broses fydd yn arwain at refferendwm ynglŷn â phwerau ychwanegol.
Dwi yn croesawu hyn yn fawr ac mi fyddai yn sicir yn barod iawn i ymgyrchu ar y cyd gyda unrhyw Blaid neu fudiad arall dros bledlais IA.
OND... tydw i ddim o blaid cynnal refferendwm ar ddiwrnod yr Etholiad Cynulliad ar Fai 5ed,2011 gan y byddai hynny yn creu gormod o ddryswch i etholwyr ac yn ei gwneud hi'n amhosib i gydweithio yn effeithiol er mwyn ennill y refferendwm (ac ennill y sedd).
Felly os am gychwyn y broses, be am anelu oddifri tuag at gael refferendwm a phleidlais o blaid cynyddu pwerau y Cynulliad erbyn Hydref eleni.


A Welsh assembly vote next week will enable AMs to "trigger" the process for a referendum on further powers.
The Welsh Labour and Plaid Cymru leaders will meet later, after confirmation that the vote will begin the process towards the referendum.
I warmly welcome this and I will be more than willing to campaign with any other Party or Movement in favour of a YES vote.
BUT...I am not in favour of holding the referendum on the same day as the Assembly Elections, May 5th, 2011 as that would create confussion among electors and it would also damage the ability to campaign effectively to win the referendum (and to winning the seat).
Therefore, if we are to trigger the proses, lets be serious about getting a referendum and a yes vote in favour of increasing the powers of the Assembly by the Autumn of this year.

Carchar i ardal Tywyn? - Prison for the Tywyn area?



Heddiw bydd Pwyllgor Craffu Datblygu Cyngor Gwynedd yn trafod y posibilrwydd o wneud cais i'r Weinyddiaeth Cyfiawnder am y garchar gael ei sefydlu ar hen safle'r fyddin yn Nhonfanau ger Tywyn, Meirionnydd.
Daw hyn yn sgil galwad gan un o gynghorwyr Llais Gwynedd ym Mro Dysynni, y Cyng.Louise Hughes am i Tonfanau gael ei ystyried oddifri fel safle posib ar gyfer carchar gan y byddai o gwmpas 1,000 o swyddi yn cael ei greu yn ogystal a £17m yn dod i mewn i'r economi yn ol ffigyrau'r Cyngor.
Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal adolygiad manwl o gyflwr economaidd yr ardal yma o Dde Gwynedd cyn llunio strategaeth economiadd fydd maes o law dwi'n gobeithio yn creu swyddi sydd mawr ei angen yn ardal Bro Dysynni.
Tra na fydd cael carchar yn yr ardal at ddant pawb, rhaid cofio mai un ystyriaeth ymysg nifer o syniadau ddaw i'r fai ydi o. Ac mae'r ffaith fod Cyngor Gwynedd bellach yn ystyried dyfodol adfywiad economaidd Bro Dysynni i'w groesawu ac mae hynny i lawr i ymdrechion y Cyng.Louise Hughes a Llais Gwynedd ac mi ydw innau yn cefnogi hynny'n fawr ac yn llongyfarch Louise am godi'r mater.
Fedrwn ni ddim ond gobeithio y bydd y Weinyddiaeth yn delio gyda'r mater llawer gwell na wnaethant gyda'r bwriad i ddatblygu'r carchar ar hen safle Ferodo, Caernarfon.


Today, Gwynedd Council's Development Scrutiny Committee will discuss in more detail its case to the Ministry of Justice for building a prison at Tonfanau near Tywyn, Meirionnydd.
This has come about following a proposal by one of Llais Gwynedd's Councillors in the Tywyn area, Cllr. Louise Hughes who has asked that the Tonfanau site be given serious consideration for a prison as the indications are that such a development would create in the region of 1,000 new jobs and would also bring an estimated £17m into the local economy.
The Council will also conduct a full review of the economic condition of this area of South Gwynedd before drawing up a strategy aimed at regenerating the area and creating long term job opportunities which are much needed in the Tywyn area.
Whilst having a prision in the area will not be to everyone's liking, we must bear in mind that this is only one idea out of a number that will undoubtedly be considered as part of any regeneration strategy for the area. The very fact that Gwynedd Council is now looking at the economic future of the area is to be warmly welcomed and that is down to the efforts of Cllr. Louise Hughes and Llais Gwynedd and I support her efforts and she is to be congratulated for raising the profile of the area and its need for economic investment.
We can only hope that the Ministry of Justice will give the Tonfanau site fair and proper consideration and handle the matter far better than what they did with the shambolic handeling of the former Ferodo site near Caernarfon.

01/02/2010

One to watch - Ellie Goulding


On February 16th, the 30th Brit Awards are held at Earls Court and there collect this year's Critics Choice Brit Award will be 22 year old Ellie Goulding who was born in Hereford although according to some articles I've read, she used to live in Mid Wales (is that true?).
Ellie has also topped the BBC's Sound of 2010 list and her music has been championed by Welsh DJ Huw Stevens. Incidentally second on that list were Welsh act Marina and the Diamonds.
Ellie's first single, Under The Sheets was in my Top 10 favourite songs of 2009 and here latest single, Starry Eyed is also good and her debut album Lights, is launched on St.David's Day, March 1st.
I think 2010 will be a good year for Ms Goulding and I'm looking forward to hearing more from her.
Here she is playing a couple of her tracks live...what do you think?
STARRY EYED

UNDER THE SHEETS

30/01/2010

Symud ymlaen - Moving on


Mae'r Rheolwr Rhawd Cymunedol dros yr ardal hon, PC Gareth Griffiths yn symud i weithio i'r Bala wedi bron i dwy flynedd yma efo ni yn y Blaenau.
Dwi wedi cael Gareth yn heddwas hawdd iawn i weithio gydag o ac mae ei gyfnod yma yn y Blaenau wedi bod yn un gweithgar ac effeithiol.
Carwn ddymuno pob hwyl iddo yn y Bala ac dwi'n edrych ymlaen i gydweithio gyda'i olynydd, y Cwnstabwl Rhys Jones sydd yn cychwyn ar ei waith yr wythnos nesaf.

The Community Beat Manager for this area, PC Gareth Griffiths is moving to work in the Bala area after nearly two years here with us in Blaenau.
I have found Gareth to be a good policeman to work with and his time here in Blaenau has been productive and effective.
I would like to thank Gareth for his help and support and I wish him well in Bala and I am looking forward to working with his replacement, PC Rhys Jones who takes over as CBM, next week.