Croeso i ystafell ddysgu Llyfrgell Genedlaethol Cymru – safle i bawb sydd am gael cyflwyniad i’r Llyfrgell arbennig hon a’i gwaith, a chael syniadau am sut i’w defnyddio. Os ydych yn dysgu siarad Cymraeg, arhoswch gyda ni ar y tudalennau Cymraeg a rhoi cynnig arni! Nid yw’r iaith yn rhy anodd, gobeithio.
Welcome to the learning room of the National Library of Wales – a site for anyone who wants an introduction to this unique Library and its work. First of all, choose a language. If you’re a Welsh learner, why not try using the Welsh version? If you prefer to use the English site, click on the link on the right.
Ar y safle yma mae, adnoddau a syniadau i athrawon a rhieni, tasgau a gemau i blant a gwybodaeth i ymwelwyr.
Mae dilyn llwybrau newydd mewn llyfrgell yn bleser. Gallwch ddilyn eich diddordeb a chael eich hysbrydoli i wneud mwy o ymchwil er mwyn dod i wybod mwy, neu ddeall yn well. Mae pob math o ffynhonellau ar gael i'ch helpu – llyfrau, dogfennau, mapiau, ffotograffau, lluniau, sain a ffilm a rhyngrwyd.
Dyma beth gall y Llyfrgell Genedlaethol eu cynnig i chi.
Yn y saith adran ar y wefan hon, gallwch ddarganfod sut le yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a sut ddefnydd gallwch chi ei wneud o'r lle, i helpu eich dysgu chi eich hunan.
Cliciwch ar unrhyw un o'r lluniau ar y chwith i weld beth sydd yma.
--------------------------------------------------------------------------------------
Newyddion
Yn ystod 2006 cynhaliodd y Llyfrgell weithdai a seminarau i gofnodi 60 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Noddwyd y prosiectau hyn fel
rhan o raglen EGED (Eu Gorffennol, Eich Dyfodol), a darparwyd pecynnau gwaith i gyd-fynd â hwy gan Wasanaeth Addysg y Llyfrgell a Culturenet Cymru.
Mae'r pecynnau yn bwrw golwg ar fywyd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yn canolbwyntio ar yr ymdrechion a wnaethpwyd ar y ffrynt cartref.
Mae yna fersiynau cynradd ac uwchradd - yn Gymraeg a Saesneg - i'w gweld yn adran Adnoddau mewn ffurf PDF, ac mae croeso i chi eu lawrlwytho i'w defnyddio yn y dosbarth.
--------------------------------------------------------------------------------------
Croeso | Y Llyfrgell ei hun | Cysylltu | Ymchwilio | Adnoddau | Beth sy' 'mlaen? | Sylwadau | Plant | Cymorth