Chwilio
Gallwch chwilio trwy gynnwys y wefan trwy’r blwch chwilio'r safle yng nghornel uchaf y dudalen neu trwy’r ddolen ar droed pob tudalen.
Chwilio trwy gatalogau’r Llyfrgell trwy ddefnyddio’r blwch chwilio yng ngholofn chwith y dudalen gartref, neu drwy ddewis yr adran Catalogau ym mhrif far llywio’r wefan.
Map y safle
Gellir defnyddio map y safle i ddarganfod un union pa dudalennau sydd wedi eu lleoli yng ngwahanol adrannau’r wefan a beth yw eu strwythur.
Llywio drwy'r safle
Cynlluniwyd bob tudalen i'ch galluogi i gyrraedd prif rannau'r safle o fewn un neu ddau glic.
Cliciwch ar y prif far llywio llorweddol i gyrraedd prif dudalen pob adran yn y wefan.
Gellir symud trwy adran o fewn y wefan trwy glicio ar dudalennau yn y rhestr ar ochr chwith pob tudalen.
Mae gan bob adran o fewn y wefan liw arbennig i’ch cynorthwyo i symud trwy’r wefan yn ddidrafferth .
Mae’r rhes o dudalennau o dan y prif far llywio (‘Rydych chi yma:’) yn eich galluogi i symud yn ôl un tudalen ar y tro, trwy dudalennau’r adran dan sylw. Cliciwch ar enw’r dudalen yr hoffech ymweld â hi.
I ddychwelyd i brif dudalen LlGC cliciwch ar
yng nghornel uchaf chwith y dudalen.
Newid maint y testun
Gwelir yma ganllawiau ar sut i newid maint y testun o fewn ein gwefan trwy eich porwr.
Hygyrchedd y wefan
Rydym wedi ceisio gwneud ein gwefan mor hygyrch â phosib.
Rydym wedi cynnwys linc Osgoi'r Arlwy ar ein holl dudalennau.
Mae ein tudalennau wedi eu strwythuro fel bod modd eu defnyddio heb allweddell/lygoden trwy ddefnyddio ‘tab’ i fynd o un linc i'r llall ac yna gwasgu 'ENTER'.
Mae nifer o'n catalogau hefyd ar gael arlein. Rydym yn profi hygyrchedd ein gwefan yn rheolaidd yn unol â'r canllawiau W3C, ac mae bob tudalen newydd yn cynnwys hygyrchedd fel mesur perfformiad allweddol.
Mae'r gosodiad hwn yn cyfeirio at holl dudalennau prif gorff gwefan llgc.org.uk. Ni fydd rhai arddangosfeydd, prosiectau a chatalogau a grëwyd cyn 2004 yn hygyrch.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu os yr hoffech fwy o wybodaeth ar sut y gwnaethpwyd y wefan hon yn hygyrch, ebostiwch webmaster@llgc.org.uk
Datganiad hygyrchedd y catalog
Gwnaed pob ymgais i sicrhau bod y catalog hwn yn hygyrch i gymaint o bobl â phosib.
Rydym wedi ceisio cwrdd â Chanllawiau W3C ar bob cam o’r datblygiad ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gwerthwyr i sicrhau bod y safle gyfan yn cyrraedd safon WAI AA.
Dyluniwyd y safle yn gyfan gwbl gan ddefnyddio CSS ar gyfer dylunio, a defnyddiwyd maint ffont perthynol. Mae'r defnyddiwr felly'n gallu newid y maint/ffont/lliw o’u ffeil CSS personol ei hunan neu o osodiadau porwr.
Lle mae lliw wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cynorthwyo llywio neu ddarllen, gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei dyblygu drwy ddulliau eraill, anweledol neu ddi-liw.
Er ein bod yn gwneud ein gorau i gynnal safon uchel o hygyrchedd ar draws y safle, fe all fod rhai adrannau sydd heb eu datblygu eto, neu sy’n cael eu darparu gan drydydd parti ac nad ydynt yn gallu cael eu cynnal gennym ni. Rydym yn eich sicrhau ein bod yn gweithio gyda phartneriaid a datblygwyr er mwyn gwneud yr adrannau hyn o’r catalog mor hygyrch â’r gweddill.
Os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth lywio trwy’r catalog, yna byddem yn falch iawn o glywed oddi wrthych. Gyda'ch cymorth chi gallwn wella profiad y defnyddiwr ar gyfer pob defnyddiwr.
Mae'r safle yma yn defnyddio style sheets i reoli ffontiau a sut mae'r testun yn edrych ar eich sgrin.
Gellir gweld y safle hwn ar ei orau drwy ddefnyddio Firefox 2 neu Internet Explorer 6 gyda chydlyniad sgrin o 1024 x 768.
Oherwydd natur rhai o'r llythrennau Cymreig, rydym yn defnyddio set o lythrennau Cymreig sydd ddim ond ar gael trwy ddefnyddio'r porwyr we uchod. Os nad oes gennych un o'r rhain - ni fydd yn bosibl i chi weld y llythrennau priodol.