www.fgks.org   »   [go: up one dir, main page]



100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.

whatsOn

What's On?

Canmlwyddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007


Logo Canmlwyddiant

Mae 2007 yn flwyddyn bwysig iawn yn hanes Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrth i ni ddathlu canmlwyddiant derbyn ein Siarter Frenhinol gyntaf ym 1907. Mae hwn yn gyfle gwych i edrych yn ôl dros ganrif o wasanaeth gwerthfawr, a hefyd edrych ymlaen at y ganrif nesaf a thu hwnt. Mae'r Llyfrgell wedi trefnu rhaglen eang o ddigwyddiadau ar gyfer 2007, gan gynnig rhywbeth fydd o ddiddordeb i bawb. 




 


Darlithoedd Misol


Yn ogystal â'r darlithoedd hynod o boblogaidd sy'n cael eu traddodi yn y Drwm (ar ddydd Mercher cyntaf pob mis), rydym ni wedi cyflwyno dangosiadau ffilm amser cinio ar drydydd dydd Mercher pob mis.

Ceir manylion pellach yn ein rhaglenni ar-lein a phrint.


1 Ionawr 2007

Banner Canmlwyddiant
Diwrnod codi ein baneri canmlwyddiant uwchben y Llyfrgell. Bydd y rhain yn cael eu chwifio drwy gydol y canmlwyddiant ar wahân i adegau pan fyddwn ni'n nodi achlysuron swyddogol â baneri cenedlaethol.

26 Ionawr 2007

Cyfres Darlithoedd Canmlwyddiant y Sefydliad Materion Cymreig. Darlith gan Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 'National Libraries and Archives of the Future' 6.30 pm yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mynediad am ddim drwy docyn, sydd ar gael ar-lein www.llgc.org.uk/drwm neu o siop y Llyfrgell (01970) 632 548.

27 Ionawr 2007

Gwyneth Lewis Diwrnod Agored y Llyfrgell. Ymunwch â'r bardd adnabyddus Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru 2005-6, mewn gweithdai barddoniaeth i blant yn y bore am 11.00 am (8-10 oed), gyda darlleniadau gan Gwyneth am 2.00 pm. Bydd cyfres o deithiau o gwmpas y Llyfrgell yn cael eu cynnal, fydd yn amlygu gwahanol agweddau o'n casgliadau a'n gwaith. Bydd gweithgareddau eraill i blant yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd. Bydd dyn tywydd y BBC, Derek Brockway yn ymuno â ni am 3.00 pm ym Mwyty Pendinas, a bydd cyfle i'w gyfarfod, sicrhau copi wedi'i lofnodi o'i lyfr diweddaraf 'Weatherman Walking', a mwynhau paned o de.

1 Mawrth 2007. Diwrnod y Llyfr.

Darlith Gymraeg gan Dr Rhidian Griffiths 'Dinas a osodir ar fryn: canrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru'. Cyfres seminar, yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 5.00 pm.

Bydd ein Hadran Addysg hefyd yn cynnal gweithdai ar y thema 'Taith y Llyfr' fydd wedi'u hanelu at ddisgyblion ysgol gynradd.

Caiff rhaglen deledu, Defodau Dewi Sant ei darlledu ar S4C. Bydd y rhaglen yn rhoi sylw i The Penpont Antiphonal, sydd yn un o drysorau llawysgrifol y Llyfrgell o'r oesoedd canol. Bydd y rhaglen yn cynnwys perfformiad o'r llawysgrif gerddorol hon na chlywir mohoni'n aml, i ddathlu Dewi Sant, ein Nawdd Sant Cenedlaethol.


7 Mawrth 2007

Andrew Green
Cyflwyniad awr ginio gan Andrew Green: 'John Ballinger- First Librarian of the National Library of Wales.' Bydd Llyfrgellydd presennol y Llyfrgell yn olrain hanes y Llyfrgellydd Cenedlaethol cyntaf. Mynediad am ddim trwy docyn arlein www.llgc.org.uk/drwm neu o Siop y Llyfrgell (01970) 632 548.

8 Mawrth 2007

Cyfres Darlithoedd Canmlwyddiant y Sefydliad Materion Cymreig. Darlith gan Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Genedlaethol Cymru: 'National Museums of the Future' 6.30 pm Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

12 Mawrth 2007

Myths, Memories and Futures Lansio 'Myths, Memories and Futures' sef cyfrol yn cynnwys darlithoedd Canmlwyddiant y Sefydliad Materion Cymreig, 5.00pm yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Siaradwr gwadd: Peter Stead. Mynediad am ddim drwy docyn sydd ar gael arlein www.llgc.org.uk/drwm neu o Siop y Llyfrgell (01970) 632 548.

14 Mawrth 2007

Bydd Dr. Eryn Mant White yn traddodi darlith 'Peter Williams a'r Beibl Cymraeg' yn y Drwm am 6.30, dan nawdd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Mi fydd Dr. Brynley Roberts, Aberystwyth yn cael ei anrhydeddu yn ystod y noson. Mynediad am ddim drwy docyn ar-lein www.llgc.org.uk/drwm neu o Siop y Llyfrgell (01970) 632548.

19 Mawrth 2007

Diwrnod y Canmlwyddiant. Bydd y Llyfrgell yn anfon cyfarchion i Lyfrgelloedd Cenedlaethol y byd, wedi'u cyfansoddi'n arbennig gan Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru 2005-6.


Yn y Lle Hwn Agoriad swyddogol arddangosfa canmlwyddiant y Llyfrgell, Yn y Lle Hwn, gan Dr R Brinley Jones, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn y Llyfrgell Genedlaethol am 2.30 pm. Yn hwyrach yn y prynhawn bydd dathliad yn cael ei gynnal i staff y Llyfrgell. Bydd llifoleuadau newydd y Llyfrgell yn cael eu cynnau yn yr hwyr.


GlaniadLansio Glaniad - gwefan newydd sy'n adrodd hanes sefydlu'r gwladfeydd Cymreig ym Mhatagonia, yn ystod arddangosfa sy'n ymwneud â Phatagonia yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, 4.00 pm yng nghwmni'r Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru a Sr.Mario Das Neves, Llywodraethwr Chubut.

20 Mawrth 2007

Y trydydd digwyddiad mewn rhaglen o weithgareddau a gynhelir ar y cyd â Chymunedau'n Gyntaf. Bwyd i'r meddwl a'r corff gyda fersiwn y Llyfrgell o 'Ready Steady Cook'.

21 Mawrth 2007

Dangosiad amser cinio o 'Dylan Thomas' yn y Drwm gan gydweithwyr o Archif Sgrîn a Sain Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mynediad am ddim drwy docyn ar-lein www.llgc.org.uk/drwm neu o Siop y Llyfrgell (01970) 632 548.

23 Mawrth 2007

Digwyddiad dathliadol a drefnir gan Gymdeithas Staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

29 Mawrth 2007

Ymweliad gan y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru â'r Llyfrgell. Fe fydd gwefan newydd y Llyfrgell yn cael ei lansio.

29 Mawrth 2007

Trevor Fishlock Bydd BBC Wales yn darlledu pedair rhaglen ddogfen wythnosol, Tales from The National Library, yn ymwneud â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ei hanes a'i thrysorau. Trevor Fishlock fydd yn cyflwyno'r rhaglenni.

5-7 Ebrill 2007

LatfiaLansio arddangosfa CLIC: Visualising Wales / Delweddu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Latfia, yn Riga. CLIC yw'r prosiect cydweithredol cyntaf i'w ddatblygu o ganlyniad i gysylltiadau a sefydlwyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Latvia. Prosiect gweledol yw hwn ar y cyfan, ac mae'n cynnwys ffotograffiaeth gan bedwar aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd yr arddangosfa i'w gweld rhwng 5 Ebrill a 3 Mai 2007.

20 Ebrill 2007

Cyfarfod o Grwp Llyfrgelloedd Llywodraethol Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Llyfrgell (IFLA) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

26-27 Ebrill 2007

Cynhadledd y Consortiwm Llyfrgelloedd Prifysgol ac Ymchwil (CURL) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

5 - 7 Mai 2007

Who Do You Think You Are- LIVE Olympia, Llundain. Cyfle gwych i drafod ymchwil hanes teLogo 'Who Do You Think You Are Live' ulu Cymru gyda arbennigwyr o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.  Mynediad drwy tocyn o flaen llaw neu wrth y drws.  Cynnigir gostyngiad mewn prisiau tocynnau a archebu'r o flaen llaw 0870 166 0443.

10 Mai 2007

Mererid HopwoodBydd S4C yn darlledu chwe rhaglen Gymraeg â'r teitl Y Llyfrgell, yn hyrwyddo'r Llyfrgell a'i thrysorau. Cyflwynir gan Mererid Hopwood.

10 Mai 2007

Digwyddiad cymdeithasol i staff sydd wedi ymddeol

17-18 Mai 2007

Cynhadledd Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru i'w chynnal yn Llandrindod. Darlithoedd gan Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a chyfle i ddathlu'r canmlwyddiant gyda chyrff proffesiynol.

28 Mai  2007

Gŵyl y Gelli. Darlith gan Trevor Fishlock, awdur Yn y Lle Hwn /In this Place, llyfr yn dathlu canmlwyddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 10am, Llwyfan Segovia. Tocynnau - £5, ar gael wrth swyddfa'r Wyl ar 0870 9901299 neu www.hayfestival.com


28 Mai- 2 Mehefin 2007

Urdd
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Presenoldeb Llyfrgell Genedlaethol Cymru nesaf at Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod. Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn noddi defod y Cadeirio, sydd i'w chynnal ar ddydd Iau 31 Mai. Cyfle unigryw i gefnogi beirdd ifanc y dyfodol.  Am 11.30 ym mhabell y Llyfrgell ar faes yr eisteddfod fe fydd Mererid Hopwood yn lansio cyfrol canmlwyddiant y Llyfrgell Yn y Lle Hwn.

11- 15 Mehefin 2007

Cynhadledd Grŵp Rhyngwladol y Llyfrgelloedd Cyhoeddi (IGPL), a drefnir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

21 Mehefin – 5 Gorffennaf 2007

EstoniaLansio arddangosfa CLIC: Visualising Wales / Delweddu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Estonia, yn Nhallinn. CLIC yw'r prosiect cydweithredol cyntaf i'w ddatblygu o ganlyniad i gysylltiadau a sefydlwyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Estonia. Prosiect gweledol yw hwn ar y cyfan, ac mae'n cynnwys ffotograffiaeth gan bedwar aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru a detholiad o ffilmiau byrion a ddewiswyd gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

21 Mehefin 2007

Lansio 'Welsh Furniture 1250-1950. A Cultural History of Craftsmanship & Design' gan Richard Bebb. Cynhyrchwyd gyda chymorth Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 7.00 pm. Mynediad am ddim drwy docyn ar-lein www.llgc.org.uk/drwm neu o Siop y Llyfrgell (01970) 632 548.

22- 23 Mehefin 2007

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cynhadledd haf Cymdeithas Hanes Meddygaeth Cymru.

7 Gorffennaf 2007

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyfeillion y Llyfrgell. Y cyfle cyntaf i weld ffilm fer yn hyrwyddo'r Llyfrgell, a noddwyd yn rhannol gan Gyfeillion y Llyfrgell.

10 Gorffennaf 2007

 Brinley JonesDarlith Syr John Williams, i'w thraddodi gan Dr R Brinley Jones, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ac a gynhelir, ynghyd â derbyniad, yn Ystafell Ddarllen y Gogledd. Lansio argraffiad cyfyngedig arbennig gan Wasg Gregynog sy'n cynnwys cerddi gan Gwyneth Lewis a gomisiynwyd gan y Llyfrgell yn 2007.

23-26 Gorffennaf 2007

Mae'r Llyfrgell yn trefnu presenoldeb ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd.

4-11 Awst 2007

Bydd y Llyfrgell yn trefnu stondin ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint 2007. Bydd Coron 2007, a gynlluniwyd gan y gemydd o Lanelli, Mari Thomas, yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ar ddydd Llun 6 Awst.

31 Awst - 1 Medi 2007

Cynhelir Cynhadledd Ryngwladol David Jones 'Illuminating his library' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Medi 2007

Arddangosfa gelf wedi'i chreu yn sgil cyfres o weithdai a gynhaliawyd yn y Llyfrgell gan aelodau o Ganolfan Plas Lluest, Aberystwyth.

20 Medi 2007

Aiff Cyfarfod Ymestyn blynyddol Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru â'r Llyfrgell i Ben-y-graig, y Rhondda i gael dathliad canmlwyddiant arbennig.

25-28 Hydref 2007

Gŵyl Ffilm: Clasuron Sgrîn Cymru. Archif Sgrîn a Sain Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dod ynghyd i barhau â dathliadau canmlwyddiant y Llyfrgell. Cynhelir dangosiadau yn y ddau leoliad.

3 Tachwedd 2007

Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

10 Tachwedd 2007

Lens 3. Bobl a Phortreadau. Gŵyl Ffotograffiaeth Ddogfennol Gymreig Trydedd gynhadledd flynyddol yr achlysur hynod lwyddiannus hwn, i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth yng Nghymru, a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Rhagfyr 2007

Comisiwn Brenhinol Henebion CymruCynlluniau i gynorthwyo â lansiad dathliadau canmlwyddiant Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 2008 sydd i'w gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant bydd nifer o raglenni radio yn cael eu darlledu bydd yn rhoi sylw i'r Llyfrgell. Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu'r gyfres 'Dweud Cyfrolau', a gyflwynir gan Hywel Gwynfryn (2 Ionawr 2007). Bydd BBC Radio Wales yn darlledu'r gyfres 'Shelf Life', a gyflwynir gan Trevor Fishlock (1 Chwefror 2007). Bydd BBC Radio 4 yn darlledu rhaglen a fydd yn cynnwys barddoniaeth o gasgliadau'r Llyfrgell yn y gyfres 'Great Libraries' (Mawrth 2007), a gyflwynir gan Joan Bakewell. Bydd Radio Ceredigion hefyd yn darlledu cyfres o 8 o raglenni a fydd yn cynnwys aelodau o staff yn trafod y Llyfrgell a'i gwaith.

Yn ystod dathliadau blwyddyn y canmlwyddiant, bydd plac yn cael ei osod ar yr Hen Ystafelloedd Ymgynnull, Aberystwyth, i goffáu safle cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Caiff cyfres o arddangosfeydd teithiol yn seiliedig ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru eu cynnal mewn gwahanol lyfrgelloedd cyhoeddus drwy Gymru. Bydd y rhain yn cynnwys Wrecsam, Merthyr Tudful, Sir Benfro a Gwynedd.



Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Cyril Evans
Cydlynydd Dathliadau Canmlwyddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Teleffôn: (01970) 632 800
Ffacs: (01970) 615 709
Ebost: cye@llgc.org.uk

Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2007

Diweddarwyd: 25-05-2007